Gall y gwaith a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr gael effaith fawr ar fywydau’r bobl, y teuluoedd a’r cymunedau mwyaf anghenus. Yr her i ni yw nodi, cefnogi a dysgu o’r prosiectau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Cyfarwyddwr Gweithredol Yr Alban
Gall y gwaith a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr gael effaith fawr ar fywydau’r bobl, y teuluoedd a’r cymunedau mwyaf anghenus. Yr her i ni yw nodi, cefnogi a dysgu o’r prosiectau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae Jackie wedi gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd gynt ers 2000. Fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus y Gronfa Loteri Fawr yn Yr Alban, roedd ei chylch gwaith yn cynnwys arwain ymgynghori, datblygu rhaglenni newydd, dysgu a gwerthuso a chyfranogiad ehangach ag arianwyr, y llywodraeth a budd-ddeiliaid eraill.
Roedd hi’n Bennaeth Polisi a Chysylltiadau Cyhoeddus y Gronfa Cyfleoedd Newydd, gan ddatblygu ystod helaeth o raglenni a rheoli tîm cyfathrebu’r Gronfa. Cyn hynny, gweithiodd Jackie ym maes adfywio ac yn y celfyddydau. Llenyddiaeth a diwylliant yw ei chefndir academaidd, ac mae hi’n aelod o fyrddau dwy elusen yn Yr Alban.