Mae ymchwil a dysgu'n rhoi cyfle i ni ddeall effaith ein hariannu a'n helpu i wella ansawdd ac effeithiolrwydd ein rhaglenni
Ystyriwn fod gwerthuso'n ffordd allweddol o sicrhau ein bod yn atebol ac mae'n cyfrannu at ddysg sy'n gwella arfer ac yn dylanwadu ar bolisi. Defnyddiwn amrywiaeth o ymagweddau i ymchwilio i effaith ein hariannu, gan gynnwys:
Os ydych yn ddeiliad grant presennol neu ddarparu ddeiliad grant, mae'n bosib y bydd gennych ddiddordeb mewn gwerthusiadau o raglenni tebyg. Yn aml mae ein gwerthusiadau'n nodi testunau pryder prosiectau a ariennir ac yn amlygu enghreifftiau o arfer da. Defnyddiwch y cyfleuster chwilio am gyhoeddiadau i ddod o hyd i werthusiadau perthnasol.
Mae rhai o ganfyddiadau ein hymchwil wedi'u cipio mewn arweiniad ymarferol, gan gynnwys:
Os ydych yn datblygu polisi neu raglenni ariannu, mae'n bosib y bydd gennych ddiddordeb mewn adroddiadau gwerthuso ac ymchwil sy'n lleoli ein gwaith o fewn cyd-destun polisi ehangach neu'n ymchwilio i brofiadau'r grwpiau rydym yn eu hariannu. Defnyddiwch y cyfleuster chwilio am gyhoeddiadau i ddod o hyd i adroddiadau perthnasol.
Mae ein gwerthusiadau wedi'u contractio i sefydliadau allanol er mwyn sicrhau eu bod yn wrthrychol ac yn cael eu cyflawni gan bobl â sgiliau a gwybodaeth arbenigol. Gweler ein tudalen Tendrau am gyfleoedd cyfredol.
Sylwer bod y Gronfa Loteri Fawr hefyd yn ariannu ymchwil cymdeithasol a meddygol drwy raglen ymchwil ar wahân
Lawrlwythwch ein
Strategaeth Ymchwil a Dysgu 2009-15
- 1,672KB - i gael mwy o wybodaeth am ein hymagwedd.