Skip to content

Sut mae hunanwerthuso'n gysylltiedig â monitro

mae monitro’n golygu casglu gwybodaeth fel mater o drefn yn erbyn cynllun y cytunwyd arno rhyngoch chi a’r ariannwr ar ddechrau eich grant.  Mae proses fonitro’r Gronfa Loteri Fawr yn canolbwyntio ar gynnydd tuag at gyflawni canlyniadau eich prosiect.  Mae’r cynnydd hwn wedi’i nodi gan gamau o’r enw ‘cerrig milltir’, gyda phrosiectau sydd â graddfeydd amser ar gyfer cyrraedd pob carreg filltir.  Mae’r broses hon yn wahanol i hunanwerthuso

Mae gwerthuso’n mynd ymhellach ac yn ddyfnach na monitro. Mae gwerthuso’n ymchwilio i sut a pham y cyflawnwyd rhai canlyniadau penodol (neu beidio, fel y bo’n briodol).  Mae hefyd yn ymchwilio i faterion ansawdd a gwerth, gan ofyn yn bwysicaf oll: Beth oedd gwerth ac arwyddocâd y prosiect i’r sawl y bwriadwyd iddo effeithio arnynt (ac eraill yr effeithiwyd arnynt)?  Mae’n bosib hefyd y bydd yn nodi canlyniadau ychwanegol nas disgwyliwyd i’r prosiect.

Un ffordd o nodi’r gwahaniaeth rhwng monitro a gwerthuso yw eu hystyried yng nghyd-destun taith mewn car:

Mae monitro’n casglu gwybodaeth ar faterion megis cyflymder cyfartalog, pellter a deithiwyd, tanwydd a ddefnyddiwyd, a yw’r daith yn dilyn y llwybr a gynlluniwyd ac a yw ar amser.

Mae’r canlynol ymysg y cwestiynau y gellid eu gofyn fel rhan o werthuso – ai’r llwybr gorau oedd y llwybr a ddilynwyd, a fyddai’n well mynd ar y trên, a oedd hi’n werth mynd ar y daith yn y lle cyntaf.