Skip to content

Sut mae hunanwerthuso'n gysylltiedig â gwerthusiadau rhaglenni neu thematig a gomisiynwyd gan y Gronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn comisiynu gwerthusiadau mawr yn rheolaidd ar draws sawl prosiect. Gall yr astudiaethau hyn ganolbwyntio ar raglenni ariannu neu themâu penodol sy’n torri ar draws rhaglenni gwahanol. Mae’r gwerthusiad ehangach hwn yn debyg i hunanwerthusiad o ran ei ddiben, ond mae ei gwmpas yn wahanol.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio canfyddiadau’r gwerthusiadau hyn i wella’r ffyrdd rydym yn ariannu, yr ffyrdd rydym yn gweithio ac i ddylanwadu ar lunio polisïau ac arfer. Mae gwerthuso ein hariannu hefyd yn ein helpu i fod yn atebol yn gyhoeddus am y penderfyniadau ariannu rydym yn eu gwneud.

Mae gwerthusiadau’r Gronfa Loteri Fawr, sydd weithiau’n rhedeg dros nifer o flynyddoedd, fel arfer yn cynnwys astudiaethau achos. Mae hyn yn golygu efallai y bydd ein gwerthuswyr am siarad â chi ynglŷn â’ch prosiect, er mwyn casglu dysg ar gyfer y rhaglen ehangach. Manteision cymryd rhan fel astudiaeth achos yw y bydd modd i chi weld canfyddiadau annibynnol am werth ac ansawdd eich prosiect, yn ogystal â deall sut mae’n cymharu ag astudiaethau achos prosiectau eraill.

Mae’n bosib hefyd y bydd ein gwerthusiadau ehangach yn gofyn am ddefnyddio eich canfyddiadau hunanwerthuso i ddadansoddi materion neu themâu penodol, neu ofyn i chi gipio data ar ddechrau eich prosiect (data gwaelodlin) a thrwy gydol eich prosiect. Yn gynyddol rydym yn dod o hyd i ffyrdd i brosiectau gasglu data safonol o fewn rhaglen (er enghraifft drwy arolwg o’u defnyddwyr, gan ddefnyddio holiadur safonol). Mae hyn yn ei gwneud hi’n bosib i chi gymharu eich gwaith yn erbyn gwaith pobl eraill sy’n gwneud gweithgareddau tebyg neu’n anelu at ganlyniadau tebyg.  

Bydd unrhyw ddata rydych yn ei ddarparu ar gyfer gwerthusiadau’r Gronfa Loteri Fawr yn cael ei wneud yn ddienw gan y gwerthuswyr allanol a’i gadw ar wahân i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani ar ein cyfer ni at ddibenion monitro a rheoli grantiau.