Skip to content

Gwybodaeth gydraddoldeb - Canllaw i ddeiliaid grantiau

Mae ystyriaethau cydraddoldeb yn rhan annatod o gyflawni ein cenhadaeth, sef dod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau'r bobl fwyaf anghenus

Pam ydym ni'n gofyn am wybodaeth gydraddoldeb?

Rydym yn gofyn am wybodaeth gydraddoldeb oherwydd:

  • ein bod eisiau gwybod pwy sy'n elwa o'r prosiectau a ariannwn, er mwyn i ni ddarganfod p'un a oes angen i ni roi mwy o gefnogaeth i rai ymgeiswyr, targedu ein hariannu neu newid sut rydym yn rhedeg ein rhaglenni
  • ein bod yn awyddus i ddysgu sut y gall ein hariannu gyrraedd ystod mor eang â phosib o bobl
  • trwy rannu'r hyn a ddysgwn, y gall y rhai sy'n rhedeg prosiectau gael gwybod sut i gyrraedd yr ystod ehangach o bobl a allai elwa ohonynt.

Byddwch chi'n gweld ei fod yn ddefnyddiol hefyd!

Trwy gasglu gwybodaeth gydraddoldeb bydd modd i chi:

  • ddarganfod pwy sydd, a phwy sy ddim, yn elwa o'ch prosiect
  • sicrhau eich bod yn cyrraedd pawb a allai elwa ohono trwy wneud newidiadau i'ch prosiect os bydd angen
  • dangos arfer da a rhannu eich dysgu gyda ni, arianwyr eraill a'ch cymuned.

Sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon?

Byddwn yn adolygu'r hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym ac mae'n bosib y byddwn yn cysylltu â chi gyda chwestiynau.

Os nad yw eich prosiect yn cyrraedd pawb a allai elwa ohono neu os oes gwendidau yn eich dull o gywain tystiolaeth, mae'n bosib y byddwn yn gofyn i chi wneud rhai newidiadau i'ch prosiect

Pan fyddwch wedi gorffen eich prosiect, byddwn yn graddio pa mor effeithiol yr oedd o ran cyrraedd pawb a allai elwa ohono.

Sut i ddefnyddio'r canllaw hwn

Dewiswch ddolen i gael gwybod mwy, neu defnyddiwch y ddewislen ar ochr y dudalen.

Ein gofynion: Yr wybodaeth gydraddoldeb y bydd angen i chi ein hysbysu amdano ar ddechrau'r prosiect, yna bob blwyddyn ac ar ôl i chi orffen y prosiect.

Casglu eich tystiolaeth: Sut i gasglu tystiolaeth (data cydraddoldeb) ar y dechrau, i amcangyfrif y ganran o bobl a fydd yn elwa o'ch prosiect, ac yna trwy gydol eich prosiect i'ch helpu i gyfrifo'r ganran sydd wedi elwa mewn gwirionedd.

Offer casglu tystiolaeth: Offer ar gyfer casglu tystiolaeth (data cydraddoldeb) trwy gydol eich prosiect.

Adolygu eich tystiolaeth: Sut i wirio ansawdd y dystiolaeth (data cydraddoldeb) rydych wedi'i chasglu, gan gymharu'r data hyn yn erbyn eich amcangyfrifon a phenderfynu p'un a oes angen cymryd unrhyw gamau cywiro.

Cyrraedd pawb: Beth i'w wneud os bydd angen i chi gyrraedd ystod ehangach o bobl

Mwy o wybodaeth: Eich rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf Diogelu Data, ein categorïau cydraddoldeb (a'r hyn y maent yn ei olygu), arweiniad pellach a sut i gysylltu â ni.

Dywedwch wrthym pa mor ddefnyddiol oedd y canllaw hwn, a sut y gallwn ei wella, trwy gwblhau ein harolwg byr.

Ewch i'r arolwg