Ar ddiwedd bob blwyddyn byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym am y ganran o bobl a elwodd o'ch prosiect mewn gwirionedd. Felly, bydd angen i chi ddadansoddi'r data cydraddoldeb rydych wedi'i gasglu.
Yn gyntaf bydd angen i chi ystyried ansawdd eich data.
Yna bydd angen i chi gymharu'r data rydych wedi'i gywain â'ch amcangyfrifon gwreiddiol yn eich ffurflen Dechrau eich grant.
Os oes unrhyw wahaniaethau mawr ar gyfer unrhyw un o'r categorïau cydraddoldeb, bydd angen i chi ystyried y rhesymau dros hyn.
Arweiniad i fudiadau arweiniol sy'n adrodd ar ran mwy nag un prosiect
Mae rhai o'n prosiectau'n gwneud dyfarniadau i fudiadau arweiniol sy'n rheoli portffolio o brosiectau neu grantiau trydydd parti. Ar ddiwedd bob blwyddyn byddwn yn gofyn i'r mudiad arweiniol ein hysbysu am y ganran o bobl a elwodd o'u hystod o brosiectau. I wneud hyn bydd angen i bob prosiectau gyflenwi eu gwybodaeth gydraddoldeb i'r mudiad arweiniol. Bydd angen hefyd i bob prosiect nodi faint o bobl a elwodd o'u prosiect yn ystod y flwyddyn honno, er mwyn i'r mudiad arweiniol fedru penderfynu sut i bwysoli'r wybodaeth gydraddoldeb y maent wedi'i derbyn pan fyddant yn adrodd yn ôl i ni. Er enghraifft felly, os oedd gan Brosiect A 100 o fuddiolwyr o fewn portffolio, Prosiect B 75 a Phrosiect C 25, byddai'r mudiad arweiniol eisiau pwysoli'r wybodaeth gydraddoldeb a ddarparwyd gan Brosiect A a B gan ffactor o 4 a 3 yr un.
Gweld rhai enghreifftiau o sut i adolygu eich tystiolaeth
Yn dilyn eich adolygiad mae'n bosib y bydd angen i chi gymryd rhai camau cywiro trwy, er enghraifft, gwneud newidiadau i'r offer a'r technegau rydych yn eu defnyddio i gasglu data, neu gymryd camau i gyrraedd ystod ehangach o bobl.
Mwy o wybodaeth am y camau y gallech eu cymryd i gyrraedd ystod ehangach o bobl >>>