Skip to content

Adolygu eich tystiolaeth: Enghreifftiau

Enghraifft 1:

Defnyddiodd prosiect ieuenctid sy'n gweithredu mewn un o faestrefi Manceinion ddata o Gyfrifiad 2001 wrth amcangyfrif canran y bobl a fyddai'n elwa o'u prosiect fesul crefydd a chred. Dangosodd y data o 2001 y gallai 8 y cant o'u buddiolwyr fod yn Iddewaidd.

Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, roedd y prosiect wedi llwyddo i gasglu data cydraddoldeb gan 70 y cant o'i ddefnyddwyr, a theimlwyd bod hwn yn gyflawniad da. Ar ôl adolygu eu data, nododd y prosiect mai dim ond un y cant o fuddiolwyr eu prosiect oedd yn Iddewaidd, er gwaethaf eu hymdrechion gorau i hyrwyddo'r prosiect trwy'r Synagog lleol.

Teimlodd y prosiect mai'r rheswm dros y gwahaniaeth rhwng lefel yr amcangyfrif a'r lefel wirioneddol oedd oherwydd bod y ffynhonnell ddata a ddefnyddiwyd ar gyfer yr amcangyfrif mor hen. Roeddent yn gwybod bod llawer o'r teuluoedd Iddewig iau wedi symud dros y blynyddoedd i gymdogaethau eraill. Cytunodd y Gronfa Loteri Fawr i adolygu'r amcangyfrif o lefelau buddiolwyr y prosiect fesul crefydd a chred.

Enghraifft 2:

Defnyddiodd gwasanaeth llyfrgell deithiol archwiliad cymunedol diweddar yr awdurdod lleol i gyfrifo canran y bobl a fyddai'n elwa o'u prosiect o dan bob un o'r categorïau cydraddoldeb.

Blwyddyn wedyn, ar ôl casglu data cydraddoldeb trwy arolwg boddhad cwsmeriaid unigol, nodwyd gwahaniaethau mawr rhwng eu hamcangyfrifon gwreiddiol a lefelau buddiolwyr gwirioneddol ar draws llawer o'r categorïau cydraddoldeb. Wrth fyfyrio ar hyn, sylweddolodd y prosiect eu bod wedi llwyddo i gasglu data cydraddoldeb gan 150 o ddefnyddwyr y prosiect yn unig er gwaetha'r ffaith bod dros 1,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer eu gwasanaeth. Roedd hyn yn golygu nad oedd maint y data'n ddigon mawr ac nid oedd yn cynnwys ystod eang o ddefnyddwyr. Cydnabu'r llyfrgell y byddai angen iddo gynnal ei arolwg dros gyfnod hwy yn y dyfodol i annog cyfradd ymateb uwch, ac esbonio yn y rhagarweiniad pam yr oedd yn casglu'r data a sut y byddai'n cael ei ddefnyddio.

Enghraifft 3:

Defnyddiodd gardd gymunedol gymysgedd o'i hymchwil ei hun a data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i amcangyfrif pwy fyddai'n elwa o'u prosiect (o dan bob un o'r categorïau cydraddoldeb). Gofynnwyd i fuddiolwyr y prosiect lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb ddienw ar adeg cofrestru, a llwyddwyd i gasglu data rhesymol gyflawn o 80 y cant o'r defnyddwyr.

Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf cymharodd y prosiect ei amcangyfrifon â'r wybodaeth gydraddoldeb yr oedd wedi'i chasglu, gan wybod yr oedd cymuned Foslemaidd eithaf sylweddol yn yr ardal leol. Roedd y prosiect wedi'i synnu i weld mai dim ond canran fach o'r buddiolwyr oedd wedi disgrifio eu hunain fel Moslemiaid.

Siaradodd arweinydd y prosiect ag un o'r aelodau a oedd yn Foslem, a dargafuwyd bod rhedeg y prosiect ar ddydd Mawrth a dydd Gwener (y diwrnod sanctaidd Moslemaidd) yn rhwystr i gymryd rhan. Felly penderfynodd yr ardd gymunedol newid ei diwrnodau i fod yn fwy cynhwysol.