Skip to content

Defnyddio ein ffurflenni ymgeisio

I lenwi a chadw ein ffurflenni electronig mae angen gosod rhaglen Adobe Reader ar eich cyfrifiadur.

Defnyddiwn Adobe Reader gan ei fod yn gweithio ar bob cyfrifiadur cartref modern am ddim.

1. Gofalwch eich bod yn defnyddio’r fersiwn diweddaraf o Adobe Reader
  • Os oes gennych Adobe Reader eisoes, mae angen i chi sicrhau mai’r fersiwn diweddaraf ydyw. Fel arall mae’nbosib na fydd y ffurflen yn gweithio’n iawn.
  • I wirio hynny, agorwch Adobe Reader a chliciwch ar ‘Help’ ar y bar offer (neu ar beiriant Mac, cliciwch ar ‘About Adobe Reader’ ar y label Adobe Reader ar y bar offer)..
  • Yna ewch i www.get.adobe.com/uk/reader/ i weld os yw’n cyfateb i rif y fersiwn diweddaraf.
2. Os nad oes gennych Adobe Reader neu mae angen ei ddiweddaru ar eich cyfrifiadur
  • Ewch i www.get.adobe.com/uk/reader/ cliciwch ‘Download Adobe Reader’ a dilynwch y cyfarwyddiadau.
  • Efallai y gofynnir i chi pa fath o gyfrifiadur sydd gennych gan fod yna fersiynau gwahanol ar gyfer PC a Mac.
3. Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw

Mae rhai cyfrifiaduron yn defnyddio meddalwedd gwahanol yn ddiofyn i agor ffurflenni electronig. Gall hwn atal y ffurflen rhag gweithio’n iawn, felly gofalwch ddefnyddio Adobe Reader bob tro i agor y ffurflen.

Lawrlwythwch y ffurflen yn gyntaf (heb ei hagor yn eich porwr) a’i chadw’n uniongyrchol ar eich cyfrifiadur:

  • Cliciwch y ddolen i’r ffurflen gyda’r botwm de (neu gwasgwch Control ac yna cliciwch ar beiriant Mac).
  • Dewiswch yr opsiwn ‘Save Target as’ yn Internet Explorer, ‘Save file’ yn Firefox neu ‘Save link as’ yn Safari.
4. Llenwi’r ffurflen
  • Ar PC agorwch Adobe Reader gyda’r llwybr byr ar eich sgr?n, neu efallai y bydd angen i chi glicio ‘Start’, yna ‘All programmes’, yna ‘Adobe Reader’.
  • Ar Mac agorwch Adobe Reader o’ch ffolder rhaglenni.
  • Cliciwch y ddewislen ‘File’, dewiswch ‘Open’ ac yna’r ffurflen rydych newydd ei lawrlwytho o’n gwefan.
  • Os byddwch yn clicio agor wedyn, dylai’r ffurflen agor yn gywir.
  • Nawr gallwch ddechrau ateb y cwestiynau.
  • Bob tro y byddwch yn agor y ffurflen eto, cofiwch agor Adobe Reader yn gyntaf ac yna agor y ffurflen Trwy wneud hynny gallwch fod yn sicr eich bod yn defnyddio’r meddalwedd iawn.
5. Teipiwch yn uniongyrchol ar y ffurflen

Os byddwch yn teipio eich atebion mewn dogfen wahanol ac yna’n ceisio ei chop?o i’n ffurflen ni, mae’n bosib y byddwch yn gweld nodau anarferol neu bod bwledi’n newid. Hefyd mae gan rai o’n cwestiynau gyfyngiadau ar eiriau neu nodau a gall bylchau neu doriadau llinell effeithio ar ffitio holl eiriau eich ateb i mewn.

Felly awgrymwn eich bod yn teipio eich atebion yn syth ar y ffurflen. Os penderfynwch deipio eich atebion mewn dogfen arall a’u cop?o drosodd, awgrymwn ddefnyddio testun plaen. Yna gallwch wneud unrhyw newidiadau ar ?l cop?o eich ateb i’n ffurflen.

Wrth i chi orffen gwaith ar y ffurflen, cliciwch ‘File’ yna ‘Save’ cyn cau’r ffurflen ac Adobe Reader.

6. Cofiwch mai yn y cynnwys y mae ein diddordeb ni, nid y cyflwyniad

Byddwn yn asesu eich cais ar sail yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym am eich prosiect yn y ffurflen, nid ar sail cyflwyniad eich atebion. Felly gofalwch ddefnyddio iaith glir a hawdd ei deall. Os nad oedd modd i chi osod eich atebion mor dda ag yr hoffech, peidiwch ? phoeni gan na fydd yn effeithio ar eich cyfle.

Os byddwch yn dilyn yr awgrymiadau hyn, dylai ein ffurflenni gweithio’n iawn. Ond os byddwch yn cael problemau, cysylltwch ? ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu. Ffoniwch 0300 123 0735 neu anfonwch e-bost i ymholiadau.cymru@cronfaloterifawr.org.uk