Ein gweledigaeth: pobl yn arwain
Yn dod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau'r bobl mewn angen mwyaf
Credwn y dylai pobl arwain ar wella’u bywydau a’u cymunedau. Bydd ein hymagwedd yn canolbwyntio ar y sgiliau, asedau ac egni y gall pobl alw arnynt a’r potensial yn eu syniadau.
Teimlwn y gall cymunedau cryf a bywiog gael eu hadeiladu a'u hadnewyddu gan y bobl sy'n byw ynddynt - gan eu paratoi ar gyfer unrhyw beth yn wyneb cyfleoedd a heriau'r dyfodol.
Ein hegwyddorion
Byddwn yn cael ein harwain yn y dewisiadau a wnawn gan set o egwyddorion:
Hyder, nid rheolaeth
Mae gennym ffydd mewn gallu pobl i beri i bethau gwych ddigwydd, gan gredu y dylai ein hariannu alluogi yn hytrach na rheoli
Prosesau syml, barn dda
Rydym yn defnyddio prosesau syml a chymesur sy'n ein galluogi i ffurfio barn dda
Cryfderau pobl
Rydym yn dechrau gyda'r hyn y gall pobl ei gyfrannu, a'r potensial yn eu syniad
Catalydd i bobl eraill
Rydym yn gwrando ar, dysgu gan, gweithredu ar ac yn hwyluso'r pethau sydd o bwys i bobl, cymunedau a'n partneriaid
Cyfeiriad a rennir, ymagweddau amrywiol
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth y cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw ar draws y DU, rydym yn gyson o ran yr ansawdd a'r cyfleoedd a gynigiwn, ac yn cefnogi pobl i daclo anghydraddoldeb
Defnyddio adnoddau'n dda
Rydym yn gwneud dewisiadau gwybodus am yr adnoddau a roddir i ni gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol: gyda gwybodaeth, gyda phobl a gydag arian, ac mewn ffordd sy'n amgylcheddol gynaliadwy.
Chwe llinyn allweddol o'n gwaith i gyflawni'r weledigaeth hon
Gwneud grantiau
Pobl yn arwain ym mhob cam o'r cylch ariannu, yn y rhaglenni a ddatblygwn a'r prosiectau a ariannwn, gyda chyfranogiad a pherchnogaeth gan y bobl y mae ein hariannu'n eu cefnogi.
Gwybodaeth a dysgu
Byddwn yn gwella ein harfer yn barhaus ac yn cefnogi eraill i wella'u harfer nhw, trwy rannu gwybodaeth a dysgu'n agored yn fewnol ac yn allanol, a thrwy helpu'r prosiectau a ariannwn a budd-ddeiliaid i rannu'u dysgu hwy hefyd.
Pobl
Bydd ein pobl yn cael eu cyfarparu a'u cynnwys yn y dulliau gweithio newydd y mae'r weledigaeth hon yn eu hysbrydoli, ac yn cael eu cefnogi i dyfu eu galluoedd a'u hyder yn barhaus
Digidol a thechnoleg
Bydd pobl yn gallu cael mynediad at yr hyn y mae ei angen arnynt - unrhyw bryd ac unrhyw le
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Bydd pobl a chymunedau'n ymwybodol o'r arian a'r cyfleoedd sydd ar gael, ac yn gallu rhannu eu storïau, syniadau a dysgu gyda ni ac eraill
Stiwardiaeth ariannol
Model gweithredu sy'n cefnogi'r Gronfa i gael trosolwg dros y tymor hwy o sut i gyflawni'r weledigaeth yn effeithlon ac yn effeithiol
Beth mae'r fframwaith newydd hwn yn ei olygu ar gyfer ein ffordd o weithio
Bydd ein fframwaith strategol newydd yn ein harwain ni yn y dewisiadau y byddwn yn eu gwneud. Mae'n uchelgeisiol ac yn hyblyg, a gall addasu i gyd-destun newidiol ein gweithrediadau. Mae'n adlewyrchu'r posibilrwydd na fydd yr hyn sy'n gweithio heddiw yn gweithio yfory, ac yn darparu cyfeiriad i'n helpu i ddod o hyd i'r ffordd ymlaen. Mae'n cael ei gyfeirio gan yr adborth a dderbyniom gan Eich Barn Ein Dyfodol - sgwrs a gynhaliwyd trwy gydol 2014 gyda phobl o bob cwr o'r DU.
Fel corff gwneud grantiau
- Taclo anfantais trwy ganolbwyntio ar yr hyn y mae pobl yn ei gyfrannu, gan gefnogi cymunedau (daearyddol neu fel arall) i baratoi'n well ar gyfer heriau'r dyfodol
- Cryfhau ein model ariannu cymysg:
- Cadw ariannu agored sy'n ymateb i alw wrth wraidd ein gwaith - gan ei wneud yn fwy hygyrch ac ymateb i'r hyn y mae pobl yn dweud wrthym y gall ein harian eu helpu i'w gyflawni
- Defnyddio ymyraethau strategol i daclo materion penodol, gan achub ar gyfleoedd i wella a thyfu arfer gwych, a chynhyrchu dysgu defnyddiol ar ein cyfer ni ac eraill
- Datblygu rhyngweithio rhwng ymagweddau ariannu gwahanol ar draws ein portffolios, gan rannu dysgu ac adeiladu ar arfer gwych
- Symleiddio prosesau er mwyn iddynt gefnogi barn gryfach a mwy gwybodus am yr hyn a ariannwn
- Cefnogi syniadau ar sail ceisiadau hyblyg a chymesur, gan ddefnyddio ymagwedd fwy sgwrsiol at symud syniadau gwych ymlaen
- Bod yn fwy agored a chyfranogol o ran y ffordd a ariannwn - er enghraifft dod o hyd i syniadau trwy ffynonellau torfol ar sianelau digidol a'r cyfryngau, a chynnwys partneriaid wrth ddatrys problemau
- Cynyddu ein presenoldeb y tu allan i'r swyddfa, gyda rhwydweithiau a pherthnasoedd lleol cryfach
- Ymchwilio i ddulliau newydd o wneud grantiau megis buddsoddi cymdeithasol ac offerynnau ariannu eraill, cyfleoedd i adeiladu ar adennill costau llawn, ac opsiynau ar gyfer ariannu parhad
Fel catalydd
- Datblygu sgiliau unigolion a chymunedau i arwain mewn cymdeithas sifil, megis adeiladu mentrau cymunedol a chynyddu galluoedd digidol
- Dosbarthu'r mwyafrif o'n hariannu i fudiadau gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol fel ein partneriaethau cymdeithas sifil craidd
- Annog rhannau gwahanol o gymdeithas sifil - o gymdeithasau anffurfiol i entrepreneuriaid maint bach a chanolig, hyd at y mudiadau elusennol mwyaf – i addasu i gyfleoedd a heriau cyfredol
- Cefnogi arloesedd - rhoi momentwm i bobl, cymunedau ac ymarferwyr gydag ymagweddau newydd at broblemau dyrys, gan flaenoriaethu a thyfu'r syniadau ac arfer gorau
- Creu partneriaethau gyda'r rhai a all gefnogi gweithgarwch gwych a arweinir gan gymunedau - mudiadau cymdeithas sifil, arianwyr eraill, y llywodraeth, y sectorau cyhoeddus a phreifat
- Bod yn agored ac ymgysylltu ag ymagweddau newydd a mathau eraill o fudiadau, megis mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a chwmnïau cydfuddiannol, a chwmnïau buddiant cymunedol, ochr yn ochr â'n partneriaid cymdeithas sifil craidd
Fel mudiad
- Cryfhau ein rhwydweithiau ar draws y DU i rannu syniadau, gwybodaeth a thystiolaeth yn weithredol ar draws ein portffolios ariannu a'r tu allan i'r Gronfa, i wella ein dyfarniadau a phrosesau gwneud penderfyniadau ac i gefnogi eraill sydd am ddatblygu syniadau ac arfer
- Cydweithio â'r rhai a all wneud gwahaniaeth, gan gydnabod na allwn gyflwyno'r weledigaeth hon ar ein pennau ein hunain, a chan rannu ein sgiliau a nodweddion a galw ar arbenigedd pobl eraill
- Bod yn hyblyg o ran sut rydym yn rheoli ein hadnoddau a'n costau i gynyddu'r arian achosion da sydd ar gael i gymdeithas sifil
- Sicrhau bod ein hymagwedd at risg yn cefnogi pobl a chymunedau i beri i newid ddigwydd, gan alluogi i ni fod yn eofn wrth wneud grantiau ac anelu at arfer gwell
Astudiaethau achos
-
Stori Darren
Mae Darren Murinas yn ddinesydd arbenigol ar gyfer Voices, y bartneriaeth yn Stoke sy'n cefnogi pobl ag anghenion lluosog. Darllen stori Darren
-
Stori Ellen
Mae Ellen o Gowkthrapple, Yr Alban, yn adrodd ei stori. Darllen stori Ellen
-
Diogel rhag Niwed
Mae prosiect 'Safe from Harm' Depaul Foyle Haven sydd wedi ennill gwobrau wedi helpu i drawsnewid bywydau grŵp o bobl a dinas. Darllen eu stori