Gall grant gan y Loteri Genedlaethol helpu gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cynnig grantiau rhwng £300 a £10,000 i gefnogi'r hyn sy'n bwysig i bobl a chymunedau. Byddwn yn ariannu mudiadau gyda syniadau gwych am brosiect a fydd yn:

  • Siapio'r lleoedd a lleoliadau sy'n bwysig i gymunedau
  • Dod â mwy o bobl ynghyd ac adeiladu cysylltiadau cryf o fewn ac ar draws cymunedau
  • Galluogi mwy o bobl i gyflawni eu potensial trwy weithio i ddelio â phroblemau yn y cam cynharaf posib.

Eisiau gwybod mwy? Dechreuwch drwy ddweud wrthym ble fydd eich prosiect wedi'i leoli

O bryd i'w gilydd mae'r Gronfa'n gwneud grantiau o dan £10,000 i brosiectau sydd o fudd i bobl ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig. Mwy o wybodaeth am ein grantiau Deyrnas Unedig gyfan. Rydym yn gwneud grantiau dros £10,000 ar gyfer prosiectau tymor hirach hefyd.

Enghreifftiau o brosiectau sydd wedi eu hariannu

  • Yn atal hunanladdiad pobl ifainc ar draws y Deyrnas Unedig, mae Papyrus yn cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifainc sydd â meddyliau hunanddinistriol, eu cyfeillion a'u teuluoedd.

    Papyrus

    Yn atal hunanladdiad pobl ifainc ar draws y Deyrnas Unedig, mae Papyrus yn cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifainc sydd â meddyliau hunanddinistriol, eu cyfeillion a'u teuluoedd.

  • Mae'r Ragroof Players yn creu sioeau theatr, prosiectau perfformiad, dawnsiau te a digwyddiadau wedi eu teilwra sy'n dathlu dawns gymdeithasol a theatr boblogaidd.

    Ragroof Players

    Mae'r Ragroof Players yn creu sioeau theatr, prosiectau perfformiad, dawnsiau te a digwyddiadau wedi eu teilwra sy'n dathlu dawns gymdeithasol a theatr boblogaidd.

  • Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru'n cefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth, gwrthdaro a gormes.

    Cyngor Ffoaduriaid Cymru

    Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru'n cefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth, gwrthdaro a gormes.