Quick menu:

Mae'r wefan hon yn dangos cynnwys sy'n berthnasol i holl wledydd y DU. Newidiwch hyn gan ddefnyddio'r hidlyddion gwlad isod neu dewiswch Iawn i dderbyn. Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis.

OK
  • Cymorth a Chefnogaeth

Stori Steph

Fel unrhyw fam mae Steph Thielen, 42 oed, yn caru ei phlant, a'r cyfan mae hi eisiau ei wneud yw eu cadw nhw'n hapus ac yn ddiogel. Ond rhai dyddiau mae hi’n cyfaddef bod ei meibion awtistig wedi’i gyrru hi i’r dibyn. Yma, mae Steph yn adrodd ei stori.
  • Print

“Maen nhw'n wahanol iawn o ran eu personoliaethau, mae un yn fwy deallusol a'r llall yn fwy corfforol ond gall y ddau ohonynt ddangos ymddygiad heriol a phrofi anawsterau cymdeithasol. Gall methu â medru cyfathrebu eu teimladau olygu eu bod yn dangos ymddygiad aflonyddgar, ymosodedd a rhwystredigaeth. Mae llawer o heriau yn fy rôl fel gofalwr, ond y fersiwn byr yw cadw'r bechgyn yn brysur, yn hapus ac yn ddiogel. Os nad ydynt yn brysur, mae hynny'n wahoddiad agored i ymddygiad heriol.

“Roeddwn yn arfer teimlo bod popeth yn frwydr - roeddwn yn berson eithaf blin mewn gwirionedd. Roeddwn yn rhy brysur yn ceisio trefnu pethau i bawb arall a rhois daw ar fy anghenion fy hun. Yna gwelais daflen ar gyfer cwrs cymorth cyntaf a gynigiwyd gan Ganolfan Gofalwyr Abertawe a sylweddolais na fyddwn yn gwybod beth i’w wneud os digwyddodd rywbeth gwael iawn.

“Cofrestrais am hynny ac agorodd y drysau i gyfleoedd eraill. Pan oeddwn yn y ganolfan gofalwyr yn derbyn y cymorth, gwelais boster ar gyfer y rhaglen Sgiliau Bywyd. Nid oeddwn wedi gwneud unrhyw fath o hyfforddiant ers tro ac felly roeddwn yn eithaf nerfus ac wedi fy herio'n gymdeithasol braidd, roeddwn wedi bod yn unig iawn.

Roeddwn wedi dod i dderbyn y ffordd yr oedd bywyd wedi troi allan - gallaf weld bellach nad oes angen iddo fod fel hynny. Mae’r prosiect wedi gwneud i mi deimlo’n well mewn cynifer o ffyrdd ac wedi rhoi cyfle i mi roi cynnig ar bethau newydd - mae wedi fy rhoi i yn ôl i fy hun. Rwyf wedi ailgydio yn fy hun fel person yn fy rhinwedd fy hun, sy’n anodd gwneud pan ydych yn ofalwr gan eich bod yn rhoi anghenion rhywun arall o flaen eich anghenion eich hun.”

Mae Steph, sy'n anelu hefyd at astudio ar gyfer gradd mewn seicoleg, yn croesawu'r ffordd y mae arian Loteri'n cael ei wario ar brosiectau fel yr un a redir gan Ganolfan Gofalwyr Abertawe.

“Pam mae unrhyw un yn prynu tocyn loteri yn y lle cyntaf? Maen nhw'n prynu ychydig bach o obaith ar gyfer eu hunain. Mae'r prosiect hwn yn rhoi'r un fath o obaith yn ôl i bobl sydd wedi gohirio eu gobeithion a'u dyheadau eu hunain i ganolbwyntio ar rai rhywun arall."

Cefnogwyd prosiect Sgiliau Bywyd Gofalwyr Canolfan Gofalwyr Abertawe gyda grant o £369,500 yn 2010 gan y Gronfa Loteri Fawr a Chyllid Cymdeithasol Ewropeaidd - wedi'i ddosbarthu trwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

ADBORTH